Maniffesto Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru 2026

Read this in English
Published:
Lawrlwytho

“Mae hi’n argyfwng ar ADY. Mae mwy o mwy o anghenion gan blant ac rydym yn gweld cynnydd enfawr yn y plant ag anghenion cymhleth, plant y mae angen cefnogaeth arbenigol arnynt ac sy’n mynychu ysgolion prif lif. Does dim lle, dim adnoddau na digon o staff i roi’r gefnogaeth iawn i’r plant hyn.”

Athro, Abertawe

“Dywedodd 86% o aelodau fod angen mwy o gyllid er mwyn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar blant ag ADY.” 3

Mae ein gofynion yn glir:

  • Ariannu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn llawn, er mwyn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
  • Sicrhau bod gan ysgolion fynediad cyffredinol at wasanaethau cymorth arbenigol (gan gynnwys y gwasanaethau iechyd), a fydd yn eu cynorthwyo i adnabod anghenion plentyn a sicrhau bod y ddarpariaeth briodol ar gael ar gyfer pob ysgol.
  •  Sicrhau bod arian ar gael ar gyfer anghenion pob plentyn unigol, mae’n rhaid i ysgolion fod â chymhelliant i adnabod anghenion plentyn a darparu’r cymorth priodol iddynt cyn gynted â phosibl, gan gynnwys darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod gan y CADY, athrawon a staff cymorth yr amser angenrheidiol, eu bod wedi eu hyfforddi’n briodol a’u bod yn cael y gydnabyddiaeth briodol i gefnogi pob dysgwr, ac nad ydynt yn treulio amser gwerthfawr yn cwblhau gwaith papur, pan ddylent fod yn cefnogi plant a phobl ifainc.
  • Sicrhau bod gwybodaeth glir, o ansawdd uchel ar gael yn hawdd i bawb o fewn y system, gan gynnwys plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

“Mae hi’n galed iawn yn yr ysgol. Mae’r athrawon yn ei chael hi’n anodd darparu ar gyfer anghenion eu plant. Mae gennym lawer o blant gydag anghenion cymhleth ac nid ydym yn gallu eu cefnogi nhw na’r staff. Mae’r un peth yn wir am blant gydag ADY, yn arbennig ers i ni golli’r arian ar gyfer cymorth un i un.”

Uwch Arweinydd, Caerdydd

Roedd pob un ohonom yn cytuno gyda’r egwyddorion y tu ôl i’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a byddem yn gwerthfawrogi system gydag ymyrraeth a chefnogaeth gynnar i blant sydd naill ai ag anghenion dysgu ychwanegol, neu y mae’n bosibl fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, dim ond os oes gweithwyr proffesiynol o fyd addysg yno i gefnogi plant a phobl ifanc y gellir darparu “ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol”4 Mae’r argyfwng cyllidol yn ysgolion Cymru yn golgyu nad yw amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu gwireddu ac mae plant yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth allweddol.

“Bob blwyddyn, rydym yn wynebu’r posibilrwydd o ddiswyddiadau. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr – rydym yn colli staff cymorth di-ri, felly mae addysg plant ag ADY yn dioddef!” Athro cynradd, Wrecsam

Back to top